Hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru i Brosiect Cymunedol Salem

DATGANIAD I’R WASG 13/11/24

Mae grŵp gwirfoddol sy’n ymgyrchu i ddod â’r gymuned ynghyd ac anadlu bywyd yn ôl i’w pentref gwledig yn dathlu heddiw ar ôl derbyn £10,000 i ddatblygu eu prosiect. Bwriad Dyfodol Salem yw creu caffi cymunedol newydd a hwb cymdeithasol yn Neuadd Goffa Neuadd Goffa Heolgaled Salem, ar gyrion Salem, ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin. Daeth y criw at ei gilydd i achub tafarn yn y pentref, ac er bod ffactorau y tu allan i'w rheolaeth yn golygu nad oedd y prosiect i fod - gwrthododd y gymuned golli gobaith.

“Dangosodd ein hymgyrch y Gwanwyn hwn fod pobl wir eisiau gofod cymdeithasol yn ôl yn Salem”, meddai Aled Williams, gwirfoddolwr y prosiect. “Mae gennym ni neuadd bentref fechan yn barod felly’r peth naturiol oedd ail-ganolbwyntio’r prosiect ar wella ac ehangu hynny – i gynnig rhywle i bob cenhedlaeth gyfarfod yn anffurfiol dros baned neu beint.”

Perthyn: Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg

Dyfarnwyd grant o £10,000 i Dyfodol Salem gan gronfa Perthyn Llywodraeth Cymru, ac fe’i gweinyddir gan Cwmpas, (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) – asiantaeth datblygu cydweithredol sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru a ledled y DU ac sy’n canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a'r blaned yn dod yn gyntaf. Anelir y grant at gymunedau Cymraeg eu hiaith ac mae’n cefnogi twf yr iaith yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: cynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg 2023 i 2024 – i gynyddu’r defnydd bob dydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac mewn busnes a nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol i filiwn erbyn 2050.

“Mae’r grant Perthyn yn dangos hyder yn ein prosiect”; meddai Peter Harries, cadeirydd Neuadd Goffa Salem. “Mae ein hiaith yn ganolog i bwy ydym ni - dyna ein hanes a’n treftadaeth ond rydym hefyd am ei gweld yn tyfu yma, ar gyfer ein dyfodol. Felly, rydym yn falch iawn o allu cychwyn y prosiect gyda grant wedi’i anelu at warchod a meithrin y Gymraeg yma.”

Cysylltu’r Gymuned

Mae’;r grŵp yn ymgynghori â’;r gymuned ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei gael o'r prosiect a pha gyfleusterau gwell ac estynedig y gallai'r neuadd bentref eu darparu. Er bod y neuadd yn cael ei defnyddio’n helaeth gan grwpiau fel Sefydliad y Merched a chlwb Bowls Mat Byr Salem, sydd wedi ennill gwobrau, nid oes lle i fan cymdeithasol

parhaol sy’n agored i’r cyhoedd – gan arwain at golli cydlyniant cymdeithasol, a does unman i ymwelwyr a thwristiaid fwyta ac yfed a chysylltu â’r gymuned.

“Mae’r grant hwn yn newyddion gwych”; meddai Caroline Welch, gwirfoddolwr prosiect. “Bydd yn ein galluogi i adeiladu capasiti a chyflawni ymchwil, datblygu ac ymgysylltu’n ddwyieithog a fydd yn ei dro yn ein helpu i godi arian ar gyfer y prosiect a’r dystiolaeth sydd ei hangen yn y broses gynllunio. Mae pobl wedi dweud wrthym gymaint y maent yn gweld eisiau’r dafarn - cododd ein hymgyrch addewid y gwanwyn hwn £28,000 mewn pedair wythnos yn unig, felly rydym yn gwybod bod gwir angen y prosiect - a chredwn y gallwn wneud gwahaniaeth.”

Gallai cyfleusterau gwell gynnig bwyd a diod fforddiadwy, caffi neu glwb cymdeithasol parhaol a gofod wi fi yn ystod y dydd, gyda siop fechan, man casglu parseli a gwell gofod i glybiau a chymdeithasau gyfarfod a chymdeithasu. Gallai

ddarparu cynnig i dwristiaeth, swyddi i bobl leol a gofod cynnes i’r gymuned gysylltu, cyfarfod â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Mae cynaliadwyedd yn allweddol i’r prosiect ac mae’r gwaith arolwg parhaus yn dangos pa mor bwysig yw hyn i’r gymuned.

Caffi Pop up Newydd

Dydd Sadwrn nesaf, 16 Tachwedd, 10am-2pm, bydd Neuadd Goffa Salem yn cynnal ei ‘Chaffi Cymunedol’ dros dro cyntaf a fydd yn rhedeg yn fisol hyd nes y gellir adeiladu’r cyfleusterau parhaol newydd. Mae hyn yn cael ei drefnu ar y cyd â rhaglen newydd o ddigwyddiadau, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, wedi’i gynllunio i gyrraedd cynulleidfa ehangach a dechrau dod â’r gymuned yn ôl at ei gilydd – fel bod gan y gofod cymunedol newydd gefnogaeth gref pan fydd yn agor.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, i gymryd rhan a chefnogir prosiect ewch i  www.salemgar.org neu dilynwch y cynnydd ar Facebook - Cymuned Salem Community.

Previous
Previous

Burns Night Fundraiser! Live Music & Pop-Up Pub

Next
Next

Welsh Government funding boost for Salem Community Project