Dyfodol Salem

Prosiect Cyfleusterau Cymunedol

Read in English

Newyddion gwych!

Rydym wedi derbyn £10,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ein prosiect.

Ynglŷn â beth yw hyn i gyd?

Ar ôl gwasanaethu’r gymuned am fwy na 150 o flynyddoedd, caeodd tafarn hanesyddol Yr Angel Salem ei ddrysau ym mis Gorffennaf 2022. Yr Angel oedd calon ein pentref, ac roedd tristwch mawr i’r gymuned pan gaeodd y dafarn. Daeth y prosiect hwn o’r ymgyrch i’w achub, a dyhead y gymuned i ddod ynghyd a dod â bywyd yn ôl i’n pentref.

Drwy ymddiriedolaeth elusennol Neuadd Goffa Heol-galed, mae’r pentref eisoes yn berchen ar neuadd a chae cymunedol llewyrchus – felly rydym wedi ffurfio gweithgor ac yn datblygu gweledigaeth er mwyn ehangu’r cyfleusterau cymunedol ar y safle hwnnw.

Gallai cyfleusterau newydd gynnig bwyd a diod fforddiadwy, caffi neu glwb cymdeithasol a gofod wi fi yn ystod y dydd, gyda siop fach, lle i gasglu parseli a gwell lle i glybiau a chymdeithasau gyfarfod a chymdeithasu. Gallai ddarparu cynnig twristiaeth, swyddi i bobl leol a lle cynnes i ni i gyd gysylltu, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Mae llawer o enghreifftiau lle mae hyn yn gweithio'n dda mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru.

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi - ac mae angen eich mewnbwn chi i lywio ein gweledigaeth. 

Ein nod yw y bydd y cyfleusterau cymunedol newydd yn creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli, yn cryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol, yn darparu bwyd a diod fforddiadwy, yn denu twristiaid i aros, bwyta ac yfed, ac yn creu man gymunedol fywiog i bawb.

Beth yw’r cynllun?

Gan weithio gyda Chwmpas (arbenigwyr busnes cymdeithasol) fe wnaethom ffurfio sefydliad cymunedol newydd ym mis Ionawr 2024, gyda gwirfoddolwyr o’r pentref a’r ardaloedd anghysbell. Rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â’r gymuned i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd yn Salem. Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad rydym yn cynnal digwyddiadau i godi arian ar gyfer y prosiect, ac yn nodi ffrydiau cymorth grant y gallwn wneud cais amdanynt a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau codi arian cymunedol.

Prosiect Llywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2024 dyfarnwyd cymorth grant o £9,600 i ni gan Lywodraeth Cymru i’n galluogi i ymgysylltu ag ymgynghorwyr (Miller Research) i’n helpu gyda cham Dichonoldeb y prosiect. Byddant yn cyfarfod â'r gymuned, yn dadansoddi canlyniadau ein hymgynghoriad, yn siarad â rhanddeiliaid allweddol, ac yn cynhyrchu Arfarniad Opsiynau i ni, i'w ddefnyddio fel tystiolaeth i ddangos anghenion cymunedol - trwy'r broses gynllunio, ac fel tystiolaeth i gyllidwyr.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd ar y prosiect, edrychwch ar Beth sy'n Digwydd ac ymunwch â ni yn ein digwyddiadau!

Yn ystod y pandemig Covid, roedd Yr Angel yn chwarae rôl hynod bwysig fel hwb bwyd cymunedol - gan ddosbarthu bwyd a phrydau parod fel adnodd hanfodol i bobl heb drafnidiaeth, pobl a oedd yn gwarchod eu hunain a’r henoed. Roedd yr hwb yn rhaff achub i bawb a’i defnyddiodd neu a wirfoddolodd yno. Roedd yr hwb yn cysylltu’r pentref yn ystod adeg o argyfwng. Mae’r prosiect wedi dod o’r profiad hwnnw, ac awydd y pentref i beidio â cholli’r adnodd hanfodol hwnnw. Mae angen man gymdeithasol sydd ar agor i bawb – gan ein galluogi i ddod ynghyd, i deimlo’n dda a gwneud pethau da.”

Gwirfoddolwr Hwb Bwyd